Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru - Cymraeg - Caerdydd/Fangor 2027

Employer: BBC

Location: Cardiff

Salary: £24,650 per year

Posted: 2026-11-10T00:00:00Z

Job Description

AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu. PAM YMUNO Â’R CYNLLUN? Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau. Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw. Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC. PAM YMUNO Â’R TÎM? BBC Radio Cymru yw gorsaf radio Gymraeg genedlaethol Cymru ac mae’n darlledu ers 1977. Cafodd Radio Cymru 2 yn cael ei lansio yn 2018. Ar gyfartaledd, rydym yn darlledu dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oed a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, sioeau trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau, a llawer mwy. Rydym hefyd yn darlledu o ddigwyddiadau o bob math, megis Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, y Sioe Frenhinol, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw ffocws Radio Cymru 2. Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel: Is-ymchwilydd Rhedwr Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon BBC Radio Cymru , mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn: Helpu i ddatblygu syniadau a straeon drwy ymchwilio i gynnwys a dod o hyd i westeion a chyfranogwyr. Ennill profiad bywyd go iawn drwy gynorthwyo eich tîm ar leoliad, yn y stiwdio, neu mewn oriel deledu, a helpu ar lawr y stiwdio. Dysgu sut mae defnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol drwy gefnogi timau gyda chamerâu, sain, goleuadau a golygu. Creu cynnwys ar gyfer sawl llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol. Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (hyd at wythnos ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster prentisiaeth a gydnabyddir gan y diwydiant – Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol. Bydd y blociau dysgu yn gyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gynnwys: Cyflwyniadau Gwaith grŵp Fel rhan o’r rhaglen, bydd gofyn i chi deithio i fynd i flociau dysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth lle bo angen. I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, darllenwch y manylion yn Fframwaith Lefel 3 Cyfryngau Creadigol. EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Eich potensial sy’n bwysig i ni, nid eich cymwysterau, a byddwn ni’n rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd. Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais: Rhywun sy’n angerddol a chwilfrydig am gynnwys, y broses gynhyrchu a’r BBC Rhywun sy’n llawn syniadau newydd a safbwyntiau ffres am gynnwys y BBC Rhywun sy’n aelod gwych o dîm ac yn gallu delio â heriau annisgwyl Rhywun sy’n hyblyg ac yn gallu addasu i’r gwaith er mwyn helpu i ddarparu ein cynnwys. Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bob

Apply on higherin.com