Athro Dosbarth Blwyddyn 5

Employer: Ysgol Glan Ceubal

Location: Cardiff, Cardiff

Salary: C1-C8

Posted: 2026-11-10T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

YSGOL GYNRADD GYMRAEG GLAN CEUBAL HYSBYSEB SWYDD Athro Dosbarth Blwyddyn 5 Cyf: ED50242867 Cyflog C1-C8 Math o gontract Llawn amser – dros dro (cyfnod mamolaeth) Dyddiad dechrau 25 Ionawr 2027 (neu cyn gynted a phosib wedi hynny) Dyddiad gorffen 31/12/27 Ymunwch â'n tîm! Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Ceubal yn awyddus i benodi athro neu athrawes dosbarth brwdfrydig, gofalgar ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm ar gyfer cyfnod mamolaeth yn ein dosbarth Blwyddyn 5. Mae’r swydd yn un dros dro i gyflenwi dros mamolaeth deiliad parhaol y swydd a bydd yn para tan 31/12/27, neu pan fydd deiliad parhaol y swydd yn dychwelyd / ymddiswyddo, pa bynnag un sydd gyntaf. Amdanom ni Sefydlwyd Ysgol Glan Ceubal gan Gyngor Caerdydd yn 2009 mewn ymateb i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y ddinas. Lleolir yr ysgol yng Ngabalfa, Gogledd Caerdydd, ac mae'n gwasanaethu teuluoedd o'r ardal leol a'r cymunedau cyfagos. Mae Ysgol Glan Ceubal yn gymuned ysgol hapus, ofalgar a chartrefol sy'n rhoi llesiant a chynnydd pob plentyn wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gennym dros 200 o ddisgyblion ac rydym yn ymfalchïo yn y perthnasoedd cadarnhaol rhwng y plant, y staff a'r teuluoedd. Mae ein staff yn cydweithio'n agos i greu amgylchedd cynhwysol, diogel a chefnogol lle mae pob plentyn yn cael ei adnabod, ei werthfawrogi a'i annog i gyrraedd ei lawn botensial. Mae ein disgyblion yn gwrtais, yn barchus ac yn frwdfrydig dros ddysgu, gan wneud cynnydd cadarn o'u mannau cychwyn. Credwn yn gryf ym mhwysigrwydd darparu profiadau dysgu cyfoethog, ysgogol ac ystyrlon sy'n datblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder ein disgyblion, o fewn a thu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Rydym yn falch o'n Cymreictod ac yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Yr ymgeisydd delfrydol • Bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n gallu darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac ysbrydoli disgyblion Blwyddyn 5. • Meddu ar ruglder yn y Gymraeg, gyda sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol, a'r gallu i addysgu pob agwedd ar y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru a'r gallu i gynllunio profiadau dysgu creadigol, heriol ac ystyrlon. • Gosod disgwyliadau uchel ar gyfer ymddygiad, ymdrech a chyflawniad pob disgybl. • Meddu ar ddealltwriaeth dda o asesu er mwyn cefnogi cynnydd a sicrhau bod pob plentyn yn cael ei herio a'i gefnogi'n briodol. • Creu amgylchedd dosbarth cynnes, diogel a chynhwysol sy'n blaenoriaethu llesiant ac anghenion unigol pob plentyn. • Meddu ar brofiad o gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chydweithio'n effeithiol â chydweithwyr. • Bod yn unigolyn trefnus, brwdfrydig a hyblyg sy'n gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i feithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni a'r gymuned ehangach. • Bod yn barod i gyfrannu'n llawn at fywyd ehangach yr ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio'n agos â chydweithwyr y cyfnod uwch a chyfrannu at gynllunio a datblygu'r ddarpariaeth ar draws y cyfnod. Bydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran cyfrifoldebau addysgu o fewn y cyfnod uwch yn ôl anghenion yr ysgol. Beth sydd gennym i'w gynnig? • Cymuned ysgol hapus, gyfeillgar ac ymroddedig. • Disgyblion cwrtais, parchus a brwdfrydig sydd wrth eu bodd yn dysgu. • Tîm staff cydweithredol, cefnogol ac agos at ei gilydd. • Amgylchedd dysgu ac addysgu ysgogol gyda chyfleusterau ac adnoddau da. • Ymrwymiad cryf i lesiant staff a chydbwysedd gwaith a bywyd. • Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol a rhannu arbenigedd a syniadau. • Cefnogaeth ac anogaeth i ddatblygu eich ymarfer addysgu a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol. Byddai'r swydd hon yn gyfle gwych i ymuno â'n cymuned ysgol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at brofiadau dysgu a bywydau ein disgyblion. O dan Ddeddf Athrawon a Addysg Uwch 1998 a Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) Cymru 2000, rhaid i bob athro cymwys, sydd wedi'i gyflogi mewn ysgol a gynhelir, fod wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa heb fod yn is nag OM2, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion. Manylion ymgeisio Os gwelwch yn dda lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais trwy ddewis y botwm “Gwnewch Gais Nawr”. Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”. Rydym yn deall y gallech ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi. Dyddiad cau 12.00yp, Dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 Llunio rhestr fer Dydd

Apply on eteach.com