Job Description
Pennaeth Canolfan Gwenallt Swydd ar safle Ystalyfera yw hon. TLR 1C Mae'r ysgol yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer swydd Pennaeth Canolfan Gwenallt ac yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain a datblygu'r unig ddarpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae Canolfan Gwenallt wrth galon darpariaeth ôl-16 yr ysgol ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu pobl ifanc uchelgeisiol, dwyieithog a hyderus sy'n barod ar gyfer addysg uwch, cyflogaeth a bywyd modern. Fel aelod o'r Tîm Arwain Estynedig, bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer yr holl ddarpariaeth ôl-16 ac yn cyfrannu at gyfeiriad ac uchelgais yr ysgol 3-18. Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sydd â gweledigaeth glir ar gyfer addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg, ynghyd â'r egni, y sgiliau arwain a'r ymrwymiad i sicrhau'r profiadau a'r deilliannau gorau posibl i fyfyrwyr. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus: · Feddu ar hanes cryf o arwain a chodi safonau. · Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o addysg ôl-16 a llwybrau academaidd a galwedigaethol. · Arwain yn effeithiol ar gyflawniad, presenoldeb, lles a datblygiad personol myfyrwyr. · Datblygu cwricwlwm ôl-16 modern ac uchelgeisiol. · Meithrin diwylliant o uchelgais, annibyniaeth ac arweinyddiaeth ymysg myfyrwyr. · Datblygu partneriaethau cryf gyda phartneriaid Dur a Môr, phrifysgolion, colegau, cyflogwyr a rhanddeiliaid allanol. · Hyrwyddo'r Gymraeg a gwerthoedd yr ysgol ym mhob agwedd o fywyd y Ganolfan. · Cyfrannu'n weithredol at ddatblygiad strategol yr ysgol gyfan. Y Ganolfan Mae Canolfan Gwenallt yn gymuned ffyniannus o tua 220 o fyfyrwyr, gyda thua 120 ym Mlwyddyn 12 a 100 ym Mlwyddyn 13. Mae'n cynnig ystod eang o gymwysterau academaidd a galwedigaethol ochr yn ochr â rhaglen gyfoethogi gynhwysfawr sy'n cefnogi myfyrwyr i wireddu eu potensial a datblygu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r Ganolfan wedi adeiladu enw da cryf am safonau uchel, perthnasoedd cadarnhaol a deilliannau llwyddiannus, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch, gyrfaoedd proffesiynol a rolau dylanwadol mewn amrywiaeth o feysydd. Bydd y rôl yn cynnig cyfle i: · Arwain a datblygu'r unig ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot. · Dylanwadu ar gyfeiriad strategol ysgol Gymraeg 3-18 flaengar. · Datblygu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr trwy bartneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. · Arwain datblygiad arweinyddiaeth myfyrwyr a llais y dysgwr. · Sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni ei botensial ac yn symud ymlaen yn hyderus i'w gam nesaf. Pam ymgymryd â'r rôl hon? Mae hon yn swydd arweinyddiaeth allweddol o fewn yr ysgol ac yn gyfle prin i arwain canolfan ôl-16 lwyddiannus sydd â dylanwad sylweddol ar fywydau pobl ifanc ar draws y rhanbarth. Bydd y Pennaeth newydd yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Canolfan Gwenallt ac wrth ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gweithwyr proffesiynol a dinasyddion Cymru. Proses Ymgeisio Gellir ymgeisio drwy gyflwyno ffurflen gais swyddogol a llythyr cais sy'n amlinellu: · Profiad perthnasol o arwain. · Cryfderau arwain a rheoli. · Gweledigaeth ar gyfer dyfodol Canolfan Gwenallt. · Syniadau ar gyfer datblygu addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ymhellach. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Croesewir ymgeiswyr i gysylltu am sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth. Dyddiadau Allweddol Dyddiad Cau: Dydd Llun 16eg Tachwedd am 9.00yb Dyddiad Dechrau: Medi 2027