Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Employer: Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Location: Ystalyfera, Neath Port Talbot

Salary: L7-11

Posted: 2026-10-23T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Swydd ar safle Ystalyfera yw hon. Graddfa Cyflog: L7-11 Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi arweinydd profiadol, gweledigaethol ac ymrwymedig i arwain darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws ein hysgol 3-18. Mae hon yn swydd allweddol o fewn yr ysgol a bydd y person a benodir yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth, yr her a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo a ffynnu. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gynhwysiant, yn meddu ar wybodaeth ac arbenigedd cryf ym maes ADY, ac sydd â'r gallu i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac ymarferol ar draws pob cam addysgol. Bydd y rôl yn gofyn am weledigaeth glir, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i adeiladu perthnasoedd cryf gyda disgyblion, teuluoedd, staff a phartneriaid allanol. Bydd yr unigolyn a benodir yn ymarferydd rhagorol ac yn arweinydd effeithiol, gyda'r gallu i gefnogi a datblygu arferion cynhwysol ar draws yr ysgol gyfan. Bydd gan yr unigolyn yr hyder a'r gallu i arwain newid, datblygu darpariaeth ac eirioli dros anghenion pob dysgwr. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol bob oed Gymraeg lwyddiannus sy'n rhoi lles, cynhwysiant a chyfleoedd teg wrth galon ei gwaith. Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei adnabod fel unigolyn ac yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i wireddu ei botensial. Mae'r ddarpariaeth ADY yn gryfder amlwg o fewn yr ysgol. Mae'r Gilfach yn ganolbwynt i ddarpariaeth ADY yr ysgol, gan gydlynu cymorth, ymyraethau a chyfleoedd dysgu arbenigol i sicrhau bod disgyblion yn cael y gefnogaeth briodol ar yr adeg gywir, gan hyrwyddo cynnydd, lles a chynhwysiant ar draws yr ysgol gyfan. Mae'r adran wedi sefydlu enw da am ei gofal, ei harbenigedd a'i gallu i sicrhau deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Mae partneriaethau cryf gyda rhieni a gofalwyr wrth wraidd gwaith yr adran. Credwn yn gryf mai cydweithio agos rhwng yr ysgol, y cartref a'r dysgwr ei hun yw'r ffordd orau o sicrhau llwyddiant. Bydd y CADY newydd yn adeiladu ar y perthnasoedd arbennig hyn ac yn sicrhau bod llais y plentyn a'r teulu yn ganolog i bob penderfyniad. Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous yn natblygiad yr ysgol. Ym mis Medi 2027 bydd Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yn agor, gan ddarparu cyfle unigryw i ddatblygu a siapio darpariaeth arbenigol o'r safon uchaf. Bydd y CADY yn chwarae rhan arweiniol yn natblygiad strategol yr uned newydd ac yn sicrhau ei bod yn integreiddio'n llawn o fewn gweledigaeth gynhwysol yr ysgol. Bydd y deiliad swydd yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau'r awdurdod lleol a nifer eang o asiantaethau allanol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg arbenigol, gwasanaethau seicoleg addysg a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd y gallu i feithrin partneriaethau effeithiol a chydlynu cymorth amlasiantaethol yn elfen allweddol o'r swydd. Fel aelod pwysig o'r tîm arwain, bydd y CADY yn cyfrannu'n weithredol at gyfeiriad strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod cynhwysiant, tegwch a lles yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd yr ysgol. Dyma gyfle eithriadol i unigolyn gweithgar ac uchelgeisiol arwain maes sydd wrth galon cenhadaeth yr ysgol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Croesewir ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth. Dyddiadau Allweddol Dyddiad Cau: Dydd Llun 16eg Tachwedd am 9.00yb Dyddiad Dechrau: Medi 2027

Apply on eteach.com