Athro / Athrawes Drama a Saesneg

Employer: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Location: Ystum Taf, Cardiff

Salary: Graddfa Cyflog Athrawon

Posted: 2026-10-23T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro brwdfrydig i swydd rhan amser neu lawn amser o fewn yr adrannau Drama a Saesneg (cytundeb hyd at Awst 2027 yn y man cyntaf). Byddwn yn hyblyg i ystyried pynciau eraill o ddiddordeb o fewn yr ysgol ond byddai prif gyfraniad i’r adrannau uchod. Byddwn hefyd yn hyblyg i gynnig swydd rhan amser yn ol dymuniad neu i ystyried cytundeb tymor benodol os yw hyn o ddiddordeb. Mae’r ddwy adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio’r pynciau ar y safon uchaf. Yn sicr mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn dda dros ben. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw. Yn ogystal mae’r adran Ddrama yn cynnig cyrsiau Astudiaethau Cyfryngau yn CA4 a CA5 gan ddenu niferoedd uchel a chanlyniadau rhagorol dros gyfnod estynedig o flynyddoedd. Byddai diddordeb a phrofiad i gyfrannu i’r meysydd hynny hefyd o ddiddordeb penodol. Mae’r adrannau yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o lenyddiaeth fyw drwy weithdai ac ymweliadau â’r theatr ac mewn cystadlaethau sirol a chenedlaethol o ran siarad cyhoeddus a chystadlaethau llenyddol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr adrannau egniol rhain. Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd darpariaeth arloesol a chyffrous yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol. Proses Ymgeisio Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol. Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2026 Dyddiad dechrau y swydd: Ionawr 2027 neu yn fuan ar ôl hyn

Apply on eteach.com