Job Description
Swydd Athro/awes Mathemateg Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon. Contract blwyddyn i gychwyn. Er ystyrir contract parhaol i ymgeisydd addas. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein tîm addysgu ymroddedig yn ehangu, gyda chyfleoedd newydd cyffrous ar gael i ymuno â’n cymuned ysgol fywiog. Yn sgîl hyn, mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Mathemateg ym Mro Dur o fis Medi 2027 ymlaen. Mae’r adran Fathemateg wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous, blaengar. Byddwch yn ymuno ag adran glos a chefnogol sydd yn frwdfrydig dros ddatblygu meddwl mathemategol a sgiliau rhif ein disgyblion Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol. Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol am y cyfnod hynod lwyddianus Amser Aur bob prynhawn Gwener. Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae cyfleoedd allweddol ar gael i ddatblygu eich gyrfa a chefnogi eich twf a’ch datblygiad proffesiynol. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies. Proses Ymgeisio Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr. Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, Tachwedd 2il 2026 Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2027