Gweinyddwr

Employer: Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Location: Caerphilly, Caerphilly

Salary: Gradd 7 (Pro Rata)

Posted: 2026-10-13T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ysgol lwyddiannus a phoblogaidd dros ben. Yr ydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr, brwd a galluog ar gyfer adran a fyddd yn hyrwyddo datblygiad I adran Lles gan: • Cymryd cyfrifoldeb ac arwain ar gyfathrebu gyda rhieni • Bod yn ddolen gyswllt rhwng holl randdeiliaid o gymuned yr ysgol • Sicrhau croeso cynnes a chysondeb wrth gyfathrebu gyda rhieni • Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o holl bolisiau’r ysgol, a chyfeirio atynt yn rheolaidd wrth ddelio gyda rhieni, disgyblion a staff • Cydweithio a chyfathrebu’n effeithiol gyda holl aelodau’r tîm lles ac AADY • Cydweithio a chyfathrebu’n effeithiol gydag asiantaethau allanol • Rhannu arfer dda a chyfrannu tuag at ddatblygiad proffesiynol aelodau eraill o’r tîm • Adnabod tueddiadau o ran natur y cyfathrebu gyda rhieni, cyfathrebu’r wybodaeth yn effeithiol ac ymateb yn briodol i unrhyw newidiadau • Dadansoddi data priodol, a chynhyrchu adroddiadau manwl yn ôl y galw • Cyfrannu tuag at drafodaethau yn ymwneud â pholisiau ysgol, a newidiadau o dro i dro • Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau diogelwch plant, a gweithredu’n chwim pan fod unrhyw bryder yn codi • Cyfeirio unrhyw bryderon yn chwim tuag at aelodau perthnasol o’r tîm lles • Mynychu cyfarfodydd lles ac AADY, a chyfarfodydd gyda rhieni yn rheolaidd • Monitro cyfrifon ebost y tîm lles ac AADY, a chynorthwyo aelodau o’r tîm lles wrth ymateb i’r negeseuon o fewn y cyfrifon hyn • Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynllun datblygu’r ysgol, a chyfrannu tuag at ein hamcanion • Cyfrannu tuag at ethos Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, a chynnig syniadau wrth i ni barhau i wella safonau yn yr ysgol Hanfodol i allu siarad Cymraeg Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 7 (pro rata) 37 oriau yr wythnos Dyddiad cau: Canol dydd Dydd Gwener 13/10/2026

Apply on eteach.com