Cynorthwyydd Lles Emosiynol

Employer: Ysgol Plasmawr

Location: Tyllgoed, Cardiff

Salary: Graddfa 4 Pwyntiau 6-11 £26,847 - £29,071 pro-rata

Posted: 2026-10-09T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â thîm Yr Hafan fel Cynorthwyydd Lles Emosiynol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth targedig i unigolion a grwpiau bach o ddisgyblion, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr ysgol ac yn ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Arweinydd Yr Hafan a'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnal gweithgareddau ac ymyraethau lles emosiynol wedi'u teilwra i anghenion disgyblion. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu oherwydd anghenion emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol. Bydd profiad neu gymwysterau mewn dulliau megis ELSA, Talkabout neu THRIVE yn fanteisiol, er nad yw'n hanfodol gan y bydd y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gyda phobl ifanc yn hollbwysig.

Apply on eteach.com