Job Description
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF Ysgol Garth Olwg Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX 01443 57 00 57 Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250 Athro Mathemateg Cytundeb: 1 Blwyddyn i gychwyn Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon Dyddiad Dechrau: Medi 2027 Mae Corff Llywodraethol Ysgol Garth Olwg yn awyddus i benodi Athro Mathemateg brwdfrydig, deinamig a chreadigol i ymuno â’r Gyfadran Mathemateg, Rhifedd a TGCh. Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol. Rydym yn recriwtio Athro Mathemateg i addysgu disgyblion o flwyddyn 7-13. Rydym yn chwilio am ymgeisydd fydd yn medru cynnig profiadau dysgu cadarnhaol, ysbrydoledig i'n disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwd ac yn medru ymgysylltu’n gadarnhaol â’n dysgwyr, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda rhieni / gofalwyr a hefyd gyda’r gallu i gydweithio’n effeithiol fel aelod o dîm Garth Olwg. Mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol i drafod y swydd hon ymhellach gyda’r Brifathro, Mr Trystan Edwards. Byddwn fel ysgol hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod darpar ymgeiswyr sydd am ymweld â'r campws arbennig hwn cyn mynd ati i wneud cais neu cyn y broses apwyntio. Noder bod y llythyr cais yn gyfle i chi nodi’ch syniadau, sgiliau proffesiynol ac unrhyw brofiad perthnasol mewn perthynas â’r swydd hon yn ogystal a’r modd y byddwch yn cyfrannu’n llawn i fywyd Ysgol Garth Olwg. Oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i weledigaeth fentrus, uchelgeisiol ac arloesol Ysgol Garth Olwg? Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm ar ddydd Iau, 15fed o Hydref 2026. MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I’R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD. Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. Ni fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.