Job Description
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes RhCT Ysgol Gynradd Gymareg Awel Taf Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu Dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu cymhleth Graddfa Gyflog: Gradd 6 £29,071 a Lwfans AAA (pro rata) £1,539 x 77.15% Oriau: 32 ½ awr yr wythnos – tymor yn unig Dyddiad Dechrau: 2/11/26 Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu i ddechrau ym mis Tachwedd 2026 ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 10 disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a bydd yn cael ei staffio gan athro ac un Cynorthwyydd Cynnal Dysgu. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Helen Jenkins, Canolfan Menter y Cymoedd Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 16 Hydref 2026. MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD. Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff