Myfyrwyr Is-Raddedigion

Employer: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Location: Heol Y Bont, Ystum Taf, Cardiff CF14 2JL

Salary: Cymorthydd Dysgu Gradd 4

Posted: 2026-10-08T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

SWYDDI HYBLYG RHAN AMSER Myfyrwyr Israddedigion Gwyddoniaeth; Mathemateg; Technoleg; Ieithoedd; Cymraeg; Saesneg a Celfyddydau Perfformio Cynorthwy-ydd Dysgu Gradd 4 I ddechrau cyn gynted â phosib Ar ôl derbyn eich amserlen, beth am ymuno a ni ar gyfnodau rhydd i weithio ochr yn ochr â’n staff profiadol i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg? Byddwch yn derbyn cyflog rheolaidd, profiad cyfoethog o fewn addysg ac yn cyfrannu yn ymarferol i helpu disgyblion o fewn ysgolion lleol y ddinas Dyma gyfleoedd rhagorol i ddatblygu sgiliau a gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol. Edrychwn am israddedigion neu raddedigion ymchwil sy’n barod i weithio rhan amser yn mentora a chefnogi disgyblion. Byddai hyn yn golygu gweithio ambell ddydd llawn neu sesiynau bore / prynhawn ar amserlen hyblyg iawn yn ôl argaeledd amserlen pob ymgeisydd. Bydd y gwaith yn golygu gweithio fel mentor i wella sgiliau iaith neu rhif neu ar raglenni sy’n gwella lles emosiynol disgyblion. Gall hefyd olygu cynnal clwb neu weithgaredd i ddisgyblion ar ôl ysgol, yn cynorthwyo i hyfforddi chwaraeon neu arwain côr! Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm arbenigol o fewn un o’n hysgolion, yn derbyn hyfforddiant ac arweiniad yn eich gwaith, ac yn derbyn profiad cyfoethog i lwybr gyrfa o fewn byd addysg. Mae’r swyddi yn agored i fyfyrwyr israddedig neu ôl-radd cyfrwng Cymraeg ond byddwn â diddordeb arbennig o fewn pynciau Gwyddoniaeth; Mathemateg; Technoleg; Ieithoedd, Cymraeg, Saesneg a Celfyddydau Perfformio. Mae ysgolion Bro Edern, Glantaf a Plasmawr wedi ymrwymo yn gadarn at bolisïau diogelu ac amddiffyn plant ac mae ein holl weithlu yn ymrwymo i’r egwyddor craidd hwn. Bydd y swyddi yn amodol ar wiriad diogelu llawn. I ymgeisio, gallwch anfon llythyr cais byr a CV syml yn nodi eich profiad a’ch diddordeb at: Mrs Catrin Arnopp Cydlynydd y Prosiect Cynyddu Capasiti, Ysgol Glantaf Swyddi rhagorol rhan-amser drwy gyfrwng y Gymraeg

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff