Athro Mathemateg

Employer: Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Location: Heol Colcot, Barry, Y Barri, Glamorgan CF62 8YU

Salary: £33,483

Posted: 2026-10-05T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Hysbyseb Athro Mathemateg Hydref 2026 Swydd: Athro Mathemateg Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2 - UPS3 Cytundeb: Parhaol Oriau: Llawn amser Hysbyseb: Hydref 5ed 2026 Dyddiad Cau: Hydref 16eg 2026 (9yb) Swydd i ddechrau: Ionawr 2027 Dewch i ymweld Cysylltwch â Emily Denham os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs gyda’r Pennaeth drwy ffonio'r ysgol  neu ebostio - gweler manylion ymgeisio am gyfeiriad e-bost. Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol bob oed wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg.  Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol. Edrychwn am athro rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion. Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol. Mae’r adran Fathemateg yn un lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ei chanlyniadau TGAU a Safon Uwch ardderchog. Mae gan yr adran ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Cynigir Mathemateg a Mathemateg Bellach yn y chweched dosbarth. Mae’r ddau bwnc yn hynod boblogaidd fel opsiwn ac yn denu niferoedd uchel i’r cyrsiau Safon Uwch. Mae 42 disgybl ym Mlwyddyn 12 yn astudio Mathemateg a 12 yn astudio Mathemateg Bellach eleni ac mae niferoedd tebyg o Flwydyn 11 wedi dewis y pynciau i’w hastudio yn ystod y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi ymestyn ein darpariaeth yn ddiweddar i gynnig Peirianneg ar y cyd gyda’r adran Wyddoniaeth. Mae wyth athro yn yr adran ac mae phawb yn gyfeillgar a chefnogol iawn o’i gilydd. Mae’r adran yn brofiadol, ymroddgar ac ymrwymedig ac mae’r gwersi yn cael eu cynllunio i annog chwilfrydedd a diddordeb yn y pwnc, gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell. Mae pob aelod o’r adran yn rhannu eu hadnoddau dysgu er mwyn datblygu arbenigedd pynciol, cynnal safonau uchel a sicrhau’r profiadau dysgu gorau i’r disgyblion. Mae hyn yn gyfle cyffrous i ymuno ag adran uchelgeisiol sydd eisiau cynnig pob cyfle i’r disgyblion wneud o’u gorau. Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad e-bost. Datganiad Diogelu Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd. Rhys Angell Jones Hydref 2026

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff