Athro/Athrawes

Employer: Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt

Location: Ystrad, Rhondda Cynon Taff

Salary: Graddfa Tâl Athrawon

Posted: 2026-10-02T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT ATHRO/ ATHRAWES DROS DRO PRIF RADDFA (SWYDD 2 DYMOR YN YR ACHOS CYNTAF) O fis Ionawr 2026 neu cyn gynted a phosibl Dymunai’r Corff Llywodraethwyr benodi athro/wes rhagorol i ymuno â’n hysgol deuluol a gofalgar i ddysgu dosbarth yn ein hysgol. Cynigir contract dau dymor i gychwyn, gyda phenodiad parhaol yn ddibynnol ar gyllid blwyddyn nesaf. Rydym yn agored i geisiadau gan bawb gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso. Gofynnir i ymgeiswyr ymhelaethu ar eu gallu i gyfrannu at y meysydd a nodwyd yn eu llythyron cais. Lleolir YGG Bodringallt ym mhentref Pentre, Rhondda. Ymfalchiwn yn ein naws gartrefol, ein safle pwrpasol ac effeithiol a’n ymroddiad at ddarparu cwricwlwm eang i’n disgyblion. Anelwn bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial, gyda’r darpariaeth i ddatblygu sgiliau sylfaenol da yn graidd i hyn. Disgrifiad o’r rôl Bydd yr Athro/Athrawes Cyffredin yn: Addysgu’n effeithiol o fewn y Dysgu Sylfaen neu yng Nghyfnod Allweddol 2. Cynllunio a darparu gwersi creadigol, cyfoethog ac arloesol yn unol â Chwricwlwm i Gymru Sicrhau cynnydd cryf i bob disgybl, gan ymateb i’w hanghenion unigol Gweithio’n agos gyda rhieni, cydweithwyr ac asiantaethau allanol Cyfrannu’n gadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol Arddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg (llafar ac ysgrifenedig) Cynnal ethos Cymreig yr ysgol a hyrwyddo gwerthoedd cynhwysol Cydweithio’n effeithiol gyda Chlwstwr Bro Edern a rhwydweithiau proffesiynol eraill Yr ymgeisydd delfrydol: Ymarferydd dosbarth hyderus ac effeithiol Dealltwriaeth gadarn o strategaethau addysgeg cyfoes Profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion amrywiol Sgiliau rhyngbersonol cryf a dull gwaith cydweithredol Brwdfrydedd dros addysg Gymraeg a datblygiad proffesiynol parhaus Dyddiau Cau am Geisiadau: Dydd Gwener 16/10/2026 @ 12 hanner nos Cyfweliadau: Dydd Iau 18/06/2026 Tynnu’r rhester fer: Dydd Llun 19/10/26 Cyfweliadau: 22/10/2026 neu 23/10/2026 I ddechrau Ionawr, 2027 MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS. Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff