Athro/Athrawes Y Gymraeg (Ail yn yr Adran)

Employer: Ysgol Dinas Brân

Location: Llangollen, Denbighshire

Salary: Main

Posted: 2026-09-29T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Dyma gyfle ardderchog i athro neu athrawes ragorol arwain darpariaeth Cymraeg Craidd, yn ogystal ag addysgu disgyblion hynod o frwdfrydig hyd at lefel A o fewn adran lwyddiannus a chefnogol. Nodir y cyfrifoldebau TLR isod. Mae Ysgol Dinas Brân yn darparu cyfleoedd i’n disgyblion drwy gynnig gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol megis Eisteddfod yr Urdd a diwrnodau arbennig yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg. Yr ydym yn dymuno penodi unigolyn cadarnhaol, brwdfrydig ac ymroddedig i arwain a datblygu Cymraeg Craidd ar draws yr ysgol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fagu profiad arweinyddol gwerthfawr wrth hyrwyddo dwyieithrwydd a sicrhau addysgu Cymraeg o ansawdd uchel. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysgogi disgyblion ar bob lefel tra’n aelod o dîm dysgu llwyddiannus. Byddwch yn cael eich cefnogi gan ddatblygiad proffesiynol parhaus a strwythurau ymddygiad cryf. Fe’n lleolir yn ardal hyfryd Llangollen, ac rydym yn elwa ar berthynas gref a chlos â’n cymuned o ysgolion cynradd partner, yn ogystal â’r dref a’r gymuned leol ehangach. Mae gan Ysgol Dinas Brân ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwyr gydymffurfio â hyn. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Datgeliad Manylach trwy'r GDG. Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, yna ffoniwch y Pennaeth, Mr Hatch Dyddiad Cau: Hydref 14eg 2026 Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Hydref 19eg 2026.

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff