Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 (Gradd 4, SCP 5-6)

Employer: Ysgol Gyfun Gwyr

Location: Talbot Street, Tregwyr, Swansea SA4 3DB

Salary: £24,309

Posted: 2026-09-15T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Teitl y Swydd : Cynorthwywyr Addysgu Lleoliad: Ysgol Gyfun Gwyr Oriau: Llawn amser Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6) Dyddiad Dechrau: Medi 2026 Dyddiad Cau: 22/09/2026 Am y Rôl: Rydym yn chwilio am 2 Gynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm yn yr Adran ADY. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r athrawon i gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion, gan sicrhau amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol i bawb. Cyfrifoldebau: • Cynorthwyo pobl ifanc 11 i 18 oed i gynllunio a chwblhau tasgau. • Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). • Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh • Cefnogi athrawon gyda rolau amrywiol o fewn y dosbarth. • Addasu a pharatoi adnoddau yn ôl yr angen a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw. • Dangos empathi at anghenion y disgyblion tra'n eu hannog i gyflawni eu potensial. • Cyflwyno sylwadau am gynnydd y disgyblion rydych chi’n gweithio gyda fel rhan o brosesau adolygu cynlluniau datblygu unigol yr ysgol. • Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn. • Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol. • Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm. • Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch. • Helpu i gynnal amgylchedd dosbarth diogel Gofynion Angenrheidiol y swydd: • Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Sut i Ymgeisio: Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol? Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd a’ch CV at sylw y CADY, Mrs Emma Morris, drwy law Rhiannon Cummins, rheolwr gweinyddol yr adran ADY. Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn unrhyw gopiau caled hefyd - i’w danfon at sylw Mrs Emma Morris, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer. O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff