Job Description
Mae hwn yn gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn y Gwasanaeth Cyfieithu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid. Ni fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud unrhyw waith cyfieithu fel rhan o’r swydd.
Role overview
Yr Uned Fusnes yw pwynt cyswllt cyntaf staff Llywodraeth Cymru â'r Gwasanaeth Cyfieithu. Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol felly at gefnogi'r sefydliad i weithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd.
Byddwch yn defnyddio systemau TG (Technoleg Gwybodaeth) arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn helpu gyda'r offer cyfieithu ar y pryd yn ôl y gofyn, yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
Person specification
Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)
Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, gwirio bod pob cais yn dod o fewn cylch gwaith y Gwasanaeth Cyfieithu a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
Dilyn y camau sydd yn eu lle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, eu cofnodi’n gywir a thynnu sylw at unrhyw bethau anarferol, gan awgrymu gwelliannau i’r prosesau os gwelwch gyfle.
Defnyddio’r fframwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i gomisiynu gwaith gyda chwmnïau yn allanol, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyflenwyr allanol.
Dilyn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)
Cefnogi’r busnes
Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
Datblygu a defnyddio systemau corfforaethol yn ogystal â systemau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a pharatoi dogfennau i’w defnyddio yn y cof cyfieithu, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer neu gan ein cyflenwyr allanol).
Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.
Languages
Gofynion y Gymraeg Gofynion y Gymraeg 1 - Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi'u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan. Deall drwy ddarllen 4 - Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwaith Siarad a chael eu deall 4 - Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith Deall drwy wrando 4 - Gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith Ysgrifennu a chael eu deall 4 - Gallu paratoi’r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn Gymraeg
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
Communicating and Influencing
Delivering at Pace
Leadership
Benefits
Learning and development tailored to your role
An environment with flexible working options
A culture encouraging inclusion and diversity
A Civil Service pension with an employer contribution of 28.97%
Artificial intelligence
Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience.
Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action.
Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.
Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours and Experience.
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n g