Job Description
Ysgol Llanhari Gwarchodwr Gwersi Cyflog: APT&C Graddfa 6 (Pro-rata) Cytundeb parhaol 32.5 awr yr wythnos (tymor yr ysgol yn unig) I gychwyn cyn gynted â phosib Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i weithio fel Gwarchodwr Gwersi. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arolygu dosbarthiadau ar draws yr ysgol yn absenoldeb athrawon ac hefyd yn cynorthwyo gyda chynnal disgyblion neu dasgau gweinyddol pan nad oes angen arolygu. Mae hwn yn gyfle euraidd i ymgeisydd sy’n dymuno profiad o weithio mewn ysgol hapus, flaengar, llwyddiannus a chynhwysol. Mae’r swydd hon yn gyfle delfrydol i unigolyn sy’n dymuno cael profiad o weithio mewn ysgol ac o fewn byd addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyliadau uchel, y gallu i greu perthnasau rhagorol gyda disgyblion a staff a sgiliau rheoli dosbarth ardderchog. Mae Ysgol Llanhari yn ysgol 3-19 a bydd cyfle i’r unigolyn llwyddiannus weithio ar draws yr ystod oedran. Darperir hyfforddiant i chi a chewch gefnogaeth gan dîm brwdfrydig o staff. Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Meinir Thomas am sgwrs anffurfiol drwy ebostio’r ysgol, cyn cyflwyno cais. Dyddiad cau: 12 o’r gloch, hanner dydd Ddydd Gwener, Medi 25ain 2026. MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A CHYNGOR RHONDDA CYNON TAF. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff