Swyddog Ymgysylltiad Teuluol

Employer: Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Location: Heol Graigwen, Cymmer, Porth, Rhondda Cynon Taff CF39 9HA

Salary: Gradd 6 (78.84%)

Posted: 2026-09-09T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Cynyddu lefel yr ymgysylltu sydd gan rieni'r disgyblion hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai sy'n wynebu amddifadedd. Lleihau effaith anfantais ac ymwneud â theuluoedd y rhai mwyaf agored i niwed. Gweithio gyda theuluoedd i fagu presenoldeb eu plant. Cysylltu'n agos gyda staff yr ysgol i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu. Y Swyddog Ymgysylltiad Teuluol sydd â'r dasg o: • gynyddu'r ymwneud â bywyd ysgol rhieni a theuluoedd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys grwpiau bregus a disgyblion PYDd; • drwy weithio'n agos gyda'r ysgol i fynd i'r afael ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu er mwyn cyflawni eu llawn botensial. Mae'r amrywiaeth o faterion dan sylw yn eang yn amrywio o bresenoldeb, prydlondeb, ymddygiad heriol, hunan-barch isel i weithio gyda disgyblion abl a dawnus sy'n profi anawsterau. • gweithio gyda theuluoedd i annog cysylltiadau cartref/ysgol rhagorol; • sicrhau bod y ddeddfwriaeth GDPR yn cael ei dilyn yn llym wrth gofnodi gwybodaeth sensitif; • drwy weithio ochr yn ochr â'r Prifathro Cynorthwyol (Lles a Chynhwysiant) i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'r problemau y mae'r plant a theuluoedd yn eu hwynebu fel bod staff yn gallu addasu eu dulliau o ddiwallu anghenion y plant ar draws yr ysgol. • gweithio gyda theuluoedd i godi presenoldeb eu plentyn ; • targedu teuluoedd sydd angen cymorth a'u cynnwys yn y broses ddysgu; • cryfhau cysylltiadau'r ysgol â rhieni / gofalwyr a'r gymuned; • cysylltu â digwyddiadau rhieni a'u trefnu yn yr ysgol. Un elfen allweddol o waith y Swyddog Ymgysylltiad Teuluol fydd canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i rieni ddysgu sut i ddiwallu anghenion addysgol eu plant drwy ddarparu gweithdai cymunedol ac mewn ysgolion. Gallai'r rhain gynnwys gweithdai adolygu a sgiliau astudio a gweithdai rhianta. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfeirio teuluoedd i helpu a chyfleoedd sy'n berthnasol i'w hanghenion a bydd yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar, agos-atoch a di-farn sydd â chyfrifoldeb am annog teuluoedd ac i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Bydd y swydd yn cynnwys adeiladu a chynnal cysylltiadau cymunedol cryf gyda dull canolbwyntio ar y gymuned o ddod o hyd i atebion i broblemau'r teulu neu unrhyw broblem allanol sy'n effeithio ar ddysgu'r plentyn. Byddant yn cysylltu ag Arweinydd Presenoldeb yr ysgol ac yn chwarae rhan wrth fonitro presenoldeb, gan nodi strategaethau i hyrwyddo presenoldeb da yn ogystal â herio lle mae presenoldeb yn is na'r lefel dderbyniol, gan weithio'n agos gydag asiantaethau allanol a'r gwasanaeth AWO fel y bo'n briodol. PRIF DDYLETSWYDDAU / CYFRIFOLDEBAU Gweithio o dan gyfarwyddyd y Prifathro, mewn partneriaeth â’r Staff cefnogi, i gynnig cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol i ddisgyblion a theuluoedd sy'n profi heriau amrywiol. I gefnogi'r Prifathro Cynorthwyol (Llesiant a Chynhwysiant) wrth godi lefelau lles y plant, gan sicrhau bod camau'n cael eu cymryd pan fo angen er mwyn dod o hyd i'r lefel gywir o gefnogaeth i deuluoedd mewn angen. I gefnogi disgyblion a'u teuluoedd yn yr ysgol gydag unrhyw bryderon yn ymwneud â magu plant, addysg, ymddygiad, presenoldeb ac iechyd. Darparu pwynt cyswllt cyfeillgar, agos-atoch a chyfrinachol i deuluoedd. DYLETSWYDDAU PENODOL • Sefydlu perthynas gadarnhaol gyda phob disgybl a theuluoedd, er mwyn datblygu a gwella ymgysylltiad rhieni a gofalwyr â'r ysgol ac asiantaethau eraill • Gweithio gyda rhieni a gofalwyr i ddatblygu sgiliau magu plant a hybu lles plant a datblygiad emosiynol a chymdeithasol • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau ffôn ac wyneb yn wyneb gan rieni ac asiantaethau allanol • Cwblhau galwadau absenoldeb Diwrnod Cyntaf • Monitro presenoldeb a rhybuddio'r Prifathro Cynorthwyol (Lles a Chynhwysiant) i faterion sy'n dod i'r amlwg • Dan oruchwyliaeth y Prifathro Cynorthwyol i gyfathrebu i rieni ynglŷn â mynychu trwy gyfarfodydd, llythyrau ac adroddiadau tymhorol • Cefnogi staff addysgu wrth gynnal ymweliadau yn y cartref ac mewn cyswllt ag asiantaethau allanol • Cysylltu â rhieni a staff ynghylch pryderon bugeiliol disgyblion • Cydweithio gyda phobl broffesiynol o ystod o asiantaethau sy'n cefnogi'r plentyn a'r teulu • Dilyn gweithdrefnau a osodwyd yn y Polisi Amddiffyn Plant Ysgolion ar gyfer adrodd unrhyw honiadau o gam-drin • Cadw cofnodion ysgrifenedig priodol a chyfrinachol • Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir yn ôl y galw ar gyflawniad disgyblion, cynnydd a materion eraill, gan sicrhau argaeledd tystiolaeth briodol • I lunio adroddiadau ar gyfer adolygiadau a chyfarfodydd yn ôl y galw, gan gasglu gwybodaeth gan y staff addysgu yn ôl yr angen. • Cael gwybodaeth am ddarpariaeth estynedig i ysgolion yn yr ardal leol er mwyn cefnogi ein disgyblion Cefnogi'r Disgybl: • Sefydlu perthnasoedd gweithio cynhyrchiol gyda disgyblion, gweithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel • Gwrando ar a helpu disgyblion i ddatrys ystod o faterion sy'n creu rhwystrau i'w dysgu • Cefnogi anghenion bugeiliol y disgyblion

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff