Cynorthwy-ydd Dysgu

Employer: Ysgol Gymraeg Nant Caerau

Location: Cardiff, Cardiff

Salary: Gradd 4

Posted: 2026-09-09T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Swyddi Tîm Cynorthwyo Dysgu Ysgol Gymraeg Nant Caerau Swydd Cynorthwyydd Dysgu Dyddiad Dechrau: Mor fuan â phosib Cyflog: Graddfa gyflog 4, Ystod 6-11 (£26,847 - £29,071 pro rata basis) (pro rata 39 wythnos) Cytundeb: parhaol Cyfeirnod y swydd: ED50216793 Cynorthwyydd Dysgu – Ysgol Gymraeg Nant Caerau Ydych chi’n berson brwdfrydig, gweithgar, caredig ac yn aelod naturiol o dîm, sy’n awyddus i gefnogi dysgwyr mewn amgylchedd cynnes ac ysbrydoledig? Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm cynnes, brwdfrydig ac ymrwymedig Ysgol Gymraeg Nant Caerau fel Cynorthwyydd Dysgu. Yn Ysgol Nant Caerau, rydym yn falch o'r amgylchedd meithringar, croesawgar a chyfeillgar rydym wedi’i greu—hafan ddiogel lle gall pob plentyn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae ein hysgol yn gymuned gynhwysol a chydweithredol, gyda ffocws clir ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng disgyblion, staff a theuluoedd. Rydym yn angerddol dros hyrwyddo tegwch, darparu cyfleoedd cyfartal, a meithrin uchelgais ymhlith ein disgyblion. Fel Cynorthwyydd Dysgu, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi addysgu a dysgu, gan gyfrannu at ddatblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol ein plant. O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC). Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu. Rydym yn chwilio am rywun sydd: • â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac agwedd bositif • yn gallu gweithio’n agos gyda staff dosbarth ac aelodau’r tîm cymorth • yn frwdfrydig am addysg Gymraeg a datblygiad plant • yn greadigol, yn amyneddgar ac yn barod i gyfrannu at fywyd ein hysgol fywiog Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned leol ac i gefnogi ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Dylid dychwelyd y ffurflen gais at: Ms Carys Prytherch, Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Lôn Caerau Caerau Caerdydd CF5 5QZ Neu  e-bost i'r Yysgol Dyddiad Cau: Dydd Gwener, Medi 25ain. Cyfweliadau: Dydd Mawrth, Hydref 1af Os gwelwch yn dda lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais trwy ddewis y botwm “Gwnewch Gais Nawr”. Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”. Rydym yn deall y gallech ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion. Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys: • y rhai sy’n 25 oed ac iau; • y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; • y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd; • y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff