Cymhorthydd Dysgu 1.2 (Dysgwyr Anhawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol) 2 swydd

Employer: Ysgol Maes Garmon

Location: Conway Street, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, Mold, Flintshire CH7 1JB

Salary: Pro rata £17,452 - £18,004

Posted: 2026-09-03T00:00:00Z

Sector: Education & Training

Job Description

Mae Corff Llywodraethol Ffederasiwn CWLWM yn awyddus i benodi Cymhorthydd Dosbarth profiadol a chymwys sy’n frwd dros ADY ac addysg cyfrwng Cymraeg i weithio mewn adnodd ar gyfer dysgwyr ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol yn Ysgol Maes Garmon. Sefydlwyd yr adnodd ym Medi 2025, ac erbyn Medi 2026 fe fydd wedi ehangu i dderbyn mwy o ddysgwyr o glwstwr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Sir Y Fflint. Byddai disgwyl i'r Cymhorthydd Dosbarth gefnogi dysgwyr mewn amryw o ffyrdd - ar lefel 1 i 1, mewn grwp bach neu mewn dosbarth prif ffrwd. Telerau'r swydd: Graddfa gyflog Statws Sengl Sir y Fflint 1.2 Cefnogi Dysgu (Learning Support) Pro rata £17,452 - £18,004 Cytundeb 30.45 awr yr wythnos. 38 wythnos & 5 diwrnod HMS, amser tymor yn unig. Cytundeb blwyddyn neu barhaol. Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth. Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol. Datganiad Diogelu Mae Ysgol Maes Garmon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Apply on eteach.com

Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff