Job Description
YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT YSTRAD, RHONDDA, CF41 7RX ATHRO / ATHRAWES PRIF RADDFA & TLR ARWAIN DYSGU AC ADDYSGU I ddechrau Ionawr 2027 Graddfa Gyflog Athrawon + TLR £3,590 Mae'r Pennaeth ac Llywodraethwyr yn dymuno penodi Athro / Athrawes ac arweinydd arloesol ac ysbrydoledig sy'n ymarferydd rhagorol ac sy'n ymroddedig i ddatblygu addysgu a dysgu o'r ansawdd uchaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu; • Darparu syniadau clir, ysbrydoledig ar gyfer codi safonau addysgol ym mhob adran o'r ysgol. • Meddu ar y weledigaeth ar gyfer datblygiad pellach i gyflawni perfformiad cyson uchel. • Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a phersonol rhagorol. • Meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i arwain a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. • Meddu ar y gallu i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol. • Hyrwyddo gwerthoedd sy'n cynnal ysgol ddisgybledig, drefnus gydag ethos gofalgar. • Meddu ar y gallu i adeiladu ar y cysylltiadau da iawn sydd wedi’u sefydlu gyda’n teuluoedd, ysgolion cyfagos ac asiantaethau cynorthwyol. • Deall bod ein llwyddiant yn dibynnu ar gyd-barch a chydweithio gyda chymuned yr ysgol gyfan. Yn gyfnewid am hyn bydd y Llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol; a thrwy hynny greu arfer o ddysgu a datblygu effeithiol ar draws yr ysgol a'i chymuned. Lleolir YGG Bodringallt ym mhentref Pentre, Rhondda. Ymfalchiwn yn ein naws gartrefol, ein safle pwrpasol ac effeithiol a’n ymroddiad at ddarparu cwricwlwm eang i’n disgyblion. Anelwn bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial, gyda’r darpariaeth i ddatblygu sgiliau sylfaenol da yn graidd i hyn. Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion. Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd. Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Neil Pike, Pennaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 18/09/2026 Tynnu’r rhester fer: Dydd Llun 21/09/26 Cyfweliadau: Dydd Gwener 25/09/2026 I ddechrau Ionawr, 2027 MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD. Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff