Job Description
Oriau: Rhan amser: 15awr yr wythnos dros gyfnod o 4 i 5 o ddiwrnodau | Cyfnod penodol: Blwyddyn o’r dyddiad penodi Gradd B: £25,178 – £27,241 (pro-rata) Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig ac effeithlon i ymuno â’n sefydliad croesawgar sy’n prysur dyfu. Dyma gyfle cyffrous i gefnogi’r gwaith o gyflwyno ystod eang o weithgareddau ar draws sefyllfa academaidd, gyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cefnogi cyfarfodydd, gwaith cyfathrebu, a meysydd eraill yn CDdC wrth iddynt ddatblygu. O’r herwydd, mae’n cynnig profiad cyflawn, gwerth chweil, naill ai i weithiwr gweinyddol profiadol neu i rywun sydd awydd datblygu ei yrfa. Mae hon yn swydd hyblyg, ran amser am gyfnod penodol o flwyddyn i ddechrau a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i’n tîm bach a chyfeillgar i’n galluogi i gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol er budd Cymru. Rydym yn chwilio am rywun hyblyg, cefnogol a threfnus. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd, nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad sylweddol o waith blaenorol, ond rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu ysgogi ei hun, sydd ag awydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol wrth gynorthwyo pobl eraill a dod o hyd i ddatrysiadau yn hanfodol. Mae CDdC yn sefydliad dwyieithog sy’n cefnogi’r rhai sy’n siarad Cymraeg yn rheolaidd, yn ogystal â phobl sy’n dysgu’r Gymraeg ar hyn o bryd, waeth pa lefel. Nid yw bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, a’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol. ********************* Hours: 15hrs per week to be worked over 4-5 days | Fixed term: 1 year from appointment Salary: Grade B: £25,178 – £27,241 (pro-rata) Application deadline: midnight on Sunday 23 August We are seeking a motivated and efficient Administrative Assistant to join our growing and welcoming organisation. This is an exciting opportunity to support the delivery of a wide range of activity across Wales’ political, public and academic life. The role also includes support for meetings, communications, and other areas within LSW as they develop. As such, it offers a great all-round experience, whether for an experienced administrator or someone looking to develop their career. This flexible, part-time role is fixed term for one year in the first instance and will provide essential support to our small and friendly team – enabling us to deliver our ambitious five-year strategy to benefit Wales.We are looking for someone who is adaptable, supportive and organised. For an Assistant-level role we do not expect you to have substantial previous work experience, but we are looking for a self-starter with a keenness to learn, and a proactive attitude to assisting others and finding solutions is essential. LSW is a bilingual organisation that supports active Welsh speakers and learners at all levels. Fluency in Welsh is not a requirement of this post, but the ability to communicate in Welsh is desirable, and a willingness to learn is essential.
Helpful guides: Getting Into Education and Training · 5 Things Schools Look For When Hiring Support Staff