Welcome & Service Team Member / Aelod o’r Tîm Croeso a Gwasanaeth

Employer: National Trust

Location: Rhiw, Wales, GB

Salary: GBP 13.25

Job type: FULL_TIME, CONTRACTOR, Work From Home

Posted: 2026-04-20T00:00:00Z

Job Description

Summary Fel Aelod o’r Tîm Croeso a Gwasanaeth, chi fydd yn cyfarch ein hymwelwyr, yn darparu croeso cynnes, siriol ac yn rhannu gwybodaeth am ein safleoedd a’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael ymweliad cofiadwy. Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ar draws pedwar maes parcio arfordirol ym Mhorthor, Porthdinllaen, Llanbedrog, ac Aberdaron, yn ogystal â’n canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt. Contract dim oriau yw hwn, sy’n golygu na allwn warantu swm penodol o oriau bob wythnos. Er mai ein nod yw darparu patrwm gwaith cyson, mae angen hyblygrwydd gan y gall amserlenni newid yn ddibynnol ar anghenion y busnes. Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl. Mae hon yn rôl cyfnod penodol hyd at 13/09/26 a bydd disgwyl ichi weithio o 10yb i 4yp, hyd at 5 diwrnod yr wythnos. Mae’r rôl yn gofyn am hyblygrwydd, ac felly byddwch yn gyfforddus yn gweithio bron bob penwythnos a gwyliau banc. Noder bod y gallu i sgwrsio’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â chludiant dibynadwy i bob lleoliad, yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. __________________________________________________________________________ As a Welcome and Service Team Member, you’ll be the friendly face that greets our visitors, providing a warm, cheerful welcome and sharing information about our sites and the important work we do. You'll ensure every visitor has an enjoyable and memorable visit. In this role, you’ll work across four coastal car parks at Porthor, Porthdinllaen, Llanbedrog, and Aberdaron, as well as our visitor centre, Porth y Swnt. This is a zero-hour contract, meaning we can’t guarantee a set number of hours each week. While we aim to provide a consistent work pattern, flexibility is needed as schedules may change based on business needs. We’ll try to give as much notice as possible. This is a fixed-term position until 13/09/26 where you'll work from 10am to 4pm, up to five days a week. The role requires flexibility, and you should be comfortable working most weekends and bank holidays. Please note that the ability to converse fluently in Welsh and English, as well as reliable transportation to all locations, is essential for this role. What it's like to work here Mae Llyn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda chyfoeth o ddiwylliant, hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o warchod dros 20 filltir o’r arfordir hwn, gan sicrhau bod harddwch a threftadaeth Llyn yn cael eu cadw am genedlaethau. Mae ein pedwar maes parcio arfordirol yn safleoedd sy'n cynnig mynediad hawdd i ymwelwyr i draethau hardd, Llwybr Arfordir Cymru, a thrysorau niferus yr ardal ehangach. Yn ogystal â'r meysydd parcio, mae ein canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt yn hafan groesawgar sy’n ysbrydoli ymwelwyr i grwydro Llyn. Fel Aeolod o’r Tîm Croeso a Gwasanaeth, byddwch yn atebol i’r Rheolwr Croeso ac yn gweithio fel rhan o dîm ymroddedig ar draws y lleoliadau hardd hyn. Gyda'ch gilydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad gwych, a chael effaith uniongyrchol ar berfformiad masnachol y safleoedd. __________________________________________________________________________ The Llyn Peninsula is an area of outstanding natural beauty, rich in culture, history and wildlife. The National Trust is proud to protect over 20 miles of this coastline, ensuring that its beauty and heritage are preserved for generations to come. Our four coastal car parks are vital hubs, offering visitors easy access to pristine beaches, the Wales Coast Path, and the many treasures of the wider area. Additionally, our visitor centre, Porth y Swnt is a welcoming gateway, inspiring visitors to explore Llyn. As a Welcome & Service Team Member, you'll report to the Welcome Manager and work as part of a dedicated team across these beautiful locations. Together, you'll play a key role in ensuring that every visitor has a fantastic experience, while having a direct impact on the commercial performance of the sites. What you'll be doing Yn y rôl hon, byddwch yn darparu ein hymwelwyr gyda gwasanaeth cwsmer eithriadol ac addysgiadol, gan eu paratoi am brofiad arbennig a chofiadwy am weddill y diwrnod. Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, byddwch yn helpu i hyrwyddo digwyddiadau, cynigion a manteision aelodaeth sy’n annog ymwelwyr i gefnogi ein gwaith hanfodol ac yn cyfrannu at gyrraedd targedau recriwtio. Bydd ymdrin â sefyllfaoedd heriol- gan gynnwys cwynion- yn rhan o’r rôl, gan ddilyn gweithdrefnau ffurfiol a defnyddio barn gadarn i ddatrys problemau’n broffesiynol. Byddwch yn sicrhau gweithrediadau dyddiol llyfn drwy ddilyn gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnal gwasanaeth cyson a chyfrannu at leihau risg ar draws y safleoedd. Bydd cyflwyniad o safon uchel yn rhan annatod o’r swydd, gan gynnwys glanhau toiledau a chodi sbwriel yn rheolaidd. _____________________________________________________________________________ In this role, you'll provide visitors wit

Apply on reed.co.uk